top of page
Yellow Daffodil Close Up
Yellow Daffodil Close Up

LLYFR CANEUON CYMRAEG
​

We are proud of our Welsh heritage!

Please use this Welsh Songbook to learn some new songs or to sing along to your favourites. 

Ar Hyd Y Nos

Holl amrant au'r ser ddywedant ar hyd y nos,

Dyma'r ffordd i fro gogoniant ar hyd y nos,

Goleu arall yw tywyllwch,

i arddangos gwir brydferthwch

Teulur nefoedd mewn tawelwch ar hyd y nos.

​

O mor siriol gwena seren, ar hyd y nos,

I oleuo'i chwaer ddaearen ar hyd y nos,

Nos yw hen aint pan ddaw cystudd,

Ond i harddu dyn a'i hw'yrddydd,

Rhown ein golau gwan i'n gilydd, ar hyd y nos.

​

Ar Lan Y Mor

Ar lan y mor mae rhosys chochion

Ar lan y mor mae lilis gwynion

Ar lan y mor mae 'nghariad inne

Yn cysgu'r nos a chodi'r bore

​

Ar lan y mor mae carreg wastad

Lle bum yn siarad gair am cariad

O amgylch hon fe dyf y lili

Ac ambell gan gen o rosmari

​

Ar lan y mor mae cerrig gleision

Ar lan y mor mae blodau'r meibion

Ar lan y mor mae pob rinweddau

Ar lan y mor mae'n nghariad innau.

​

Calon Lan

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,

Aur y byd na'i berlau man:

Gofyn wyf am galon hapus,

Calon onest, calon lan.

​

Calon lan yn llawn daioni,

Tecach yw na'r lili dlos:

Dim ond calon lan all ganu,

Canu'r dydd a chanu'r nos.

​

Pe dymunwn olud bydol,

Chwim adenydd iddo sydd

Golud calon lan, rinweddol,

Yn dwyn bythol elw fydd.

​

Calon lan yn llawn daioni,

Tecach yw na'r lili dlos:

Dim ond calon lan all ganu,

Canu'r dydd a chanu'r nos.

​

Hwyr a bore fy nymuniad

Gwyd i'r nef ar adain can

Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,

Roddi i mi galon lan.

​

Calon lan yn llawn daioni,

Tecach yw na'r lili dlos:

Dim ond calon lan all ganu,

Canu'r dydd a chanu'r nos.

Dacw Mam yn dŵad
Dacw Mam yn dŵad ar ben y gamfa wen,
Rhywbeth yn ei ffedog a phiser ar ei phen;
Y fuwch yn  y beudy yn brefu am y llo,
A’r llo’r ochor arall yn chwarae Jim Cro:
Jim Cro Crystyn, wan tw ffôr;
A’r mochyn bach yn eistedd
Mor ddel ar y stôl.

 

Dafi bach a finna yn mynd i ffair ‘Berdâr,
Dafi’n mofyn ceiliog a finna’n mofyn giâr;
Dafi bach a finna yn mynd i ffair Llannon,
Dafi’n hela dimai a finna’n prynu ffon:
Jim Cro Crystyn, wan tw ffôr;
A’r mochyn bach yn eistedd
Mor ddel ar y stôl.

 

Shoni brica moni yn berchen buwch a llo,
A gar fach a mochyn a cheiliog go-go-go;
Ceiliog bach y dandi yn crio trwy y nos,
Eisie benthyg ceiniog i brynu gwasgod goch:
Jim Cro Crystyn, wan tw ffôr;
A’r mochyn bach yn eistedd
Mor ddel ar y stôl. 

DACW 'NGHARIAD

Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan

Tw rym di ro rym di radl didl dal

O na bawn i yno fy hunan

Tw rym di ro rym di radl didl dal

Dacw'r ty a dacw'r 'sgubor;

Dacw ddrws y beudy'n agor.

 Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, 

Tw rym di ro rym di radl didl dal.

​

Dacw'r dderwen wych ganhennog,

Tw rym di ro rym di radl didl dal

Golwg arni sydd dra serchog

Tw rym di ro rym di radl didl dal

Mi arhosaf yn ei chysgod

Nes daw 'nghariad i 'nghyfarfod

Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, 

Tw rym di ro rym di radl didl dal.

​

Dacw'r delyn, dacw'r tannau;

Tw rym di ro rym di radl didl dal

Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae?

Tw rym di ro rym di radl didl dal

Dacw'r feinwen hoenus fanwl;

Beth wyf well heb gael ei meddwl?

Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, 

​

DAW HYFRYD FIS

Daw hyfryd fis

Mehefin cyn bo hir;

A chlywir y gwcw'n

Canu'n braf yn ein tir:

Braf yn ein tir, braf yn ein tir.

Cwcw, cwcw, cwcw'n

Canu'n braf yn ein tir.

There's Mum coming carrying a pail on her head, the cow's in the cowshed lowing for her calf and the calf is on the other side playing Jim Cro.

​

The music for this can be found in '100 O Ganeuon Gwerin', purchased here: www.ylolfa.com or from your local Welsh shop.

'The lovely month of June will come before long. The Cuckoo will be heard singing fine in our land, fine in our land, fine in our land. Cuckoo, cuckoo, cuckoo, singing fine in our land.'

​

Here's is the song sung by pupils from Ysgol Glanrafon, Mold. You will find it at 00:48 on the video.

Hen Ferchetan

Hen ferchetan wedi colli'i chariad,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Cael un arall, dyna oedd ei bwriad,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Ond nid oedd un o lancie'r pentre
Ffol-di rol-lol-di rol-di ro,
Am briodi Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.

Hen ferchetan sydd yn dal i dreio,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Gwisgo lasie sidan ac ymbincio,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Ond er bod brân i frân yn rhywle
Ffol-di rol-lol-di rol-di ro,
Nid oes neb i Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.

Hen ferchetan bron â thorri'i chalon,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Mynd i'r llan mae pawb o'i hen gariadon,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Bydd tatws newydd ar bren 'fale
Ffol-di rol-lol-di rol-di ro,
Cyn priodith Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.

Hen ferchetan aeth i Ffair y Bala,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Gweld Siôn Prys yn fachgen digon smala,
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.
Gair a ddywedodd wrth fynd adre'
Ffol-di rol-lol-di rol-di ro,
Gododd galon Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro.

​

​

Hen Ferchetan (Old Maid) - Poor Little Lisa of Hendre has lost her love and it seems as though she will never meet anyone. That is, until she meets Sion Prys at Bala Fair and a kind word from him raises her spirits. Hwre!

Lawr Ar Lan Y Mor

​

Mi gwrddais i a merch fach ddel

Lawr ar lan y mor (x3)

Mi gwrddais i a merch fach ddel

Lawr ar lan y mor (x2)

​

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

​

Gofynnais i am gusan fach

Lawr ar lan y mor (x3)

Gofynnais i am gusan fach

Lawr ar lan y mor (x2)

​

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

​

Mi gefais i un gusan fach

Lawr ar lan y mor (x3)

Mi gefais i un gusan fach

Lawr ar lan y mor (x2)

​

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

​

Rhyw ddiwrnod fe'i priodaf hi

Lawr ar lan y mor (x3)

Rhyw ddiwrnod fe'i priodaf hi

Lawr ar lan y mor (x2)

​

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

O-o-o rwy'n dy garu di

O rwy'n dy garu di

Yr eneth ar lan y mor

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

LLEUCU LLWYD

Lleucu Llwyd, rwyt ti'n hardd, Lleucu Llwyd rwyt ti'n werth y byd i mi.

Lleucu Llwyd, rwyt ti'n angel, Lleucu Llwyd rwy'n dy garu di o hyd.

​

O! rwy'n cofio cwrdd a thi ac rwy'n cofio'r glaw,

Ydy'r eos yn y goedwig? Ydy'r blodau yn y maes gerllaw?

Yn yr afon mae cyfrinach ein cusan cynta' ni,

Ac mae'r blodau yn y goedwig yn sibrwd dy enw di.

​

Lleucu Llwyd, rwyt ti'n hardd, Lleucu Llwyd rwyt ti'n werth y byd i mi.

Lleucu Llwyd, rwyt ti'n angel, Lleucu Llwyd rwy'n dy garu di o hyd.

​

O! mae'r orioau man yn pasio fel eiliad ar adain y gwynt,

A gorweddaf ar fy ngwely, efallai daw'r freuddwyd yn gynt,

O! mae rhywun yn agosau, mi glywaf wichian y glwyd,

Ac rwy'n nabod swn yr esgid - mae'n perthyn i Lleucu Llwyd.

​

Lleucu Llwyd, rwyt ti'n hardd, Lleucu Llwyd rwyt ti'n werth y byd i mi.

Lleucu Llwyd, rwyt ti'n angel, Lleucu Llwyd rwy'n dy garu di o hyd.

​

​

​

MYFANWY

Paham mae dicter, O Myfanwy,

Yn llenwi'th lygaid duon di?

A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,

Heb wrido wrth fy ngweled i?

Pa le mae'r wen oedd ar dy wefus

Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffol?

Pa le mae sain dy eiriau melys,

Fu'n denu'n nghalon ar dy ol?

​

Pa beth a wnaethum, O Myfanwy

I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?

Ai chwarae oeddit, O Myfanwy

A thanau eiraedd serch dy fardd?

Wyt eiddo im drwy gywir amod

Ai gormod cadw'th air i mi?

Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy, 

Heb gael dy galon gyda hi.

​

Myfanwy boed yr holl o'th fywyd

Dan heulwen ddisglair canol dydd.

A boed i rosyn gwridog iechyd

I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.

Anghofia'r oll o'th addewidion

A wneist i rywun, 'ngeneth ddel,

A dyro'th law, Myfanwy dirion

I ddim ond dweud y gair "Ffarwel".

​

PAM FOD EIRA YN WYN

Pan fydd haul ar y mynydd, pan fydd gwynt ar y mor,

Pan fydd blodau yn y perthi a'r goedwig yn gor,

Pan fydd dagrau f'anwylyd fel gwlith ar y gwawn

Rwy'n gwybod bryd hynny mai hyn sydd yn iawn.

​

Rwy'n gwybod beth yw rhyddid, rwy'n gwybod beth yw'r gwir,

Rwy'n gwybod beth yw cariad at bobol ac at dir;

Felly peidiwch a gofyn eich cwestiynau dwl,

Peidiwch edrych arna'i mor syn

Dim ond ffwl sydd yn gofyn pam fod eira yn wyn.

​

Pan fydd geiriau fy nghyfeillion yn felys fel y gwin,

A'r seiniau mwyn cynefin yn dawnsio ar eu min,

Pan fydd nodau hen alaw yn lleddfu fy nglyw

Rwy'n gwybod beth yw perthyn ac rwy'n gwybod beth yw byw!

​

Rwy'n gwybod beth yw rhyddid, rwy'n gwybod beth yw'r gwir,

Rwy'n gwybod beth yw cariad at bobol ac at dir;

Felly peidiwch a gofyn eich cwestiynau dwl,

Peidiwch edrych arna'i mor syn

Dim ond ffwl sydd yn gofyn pam fod eira yn wyn.

​

Pan welaf graith y glowr a'r gwaed ar y garreg las,

Pan welaf lle bu'r tyddynnwr yn cribo gwair i'w das,

Pan welaf bren y gorthrwm am wddf y bachgen tlawd,

Rwy'n gwybod bod rhaid i minnau sefyll dros fy mrawd.

​

Rwy'n gwybod beth yw rhyddid, rwy'n gwybod beth yw'r gwir,

Rwy'n gwybod beth yw cariad at bobol ac at dir;

Felly peidiwch a gofyn eich cwestiynau dwl,

Peidiwch edrych arna'i mor syn

Dim ond ffwl sydd yn gofyn pam fod eira yn wyn.

Words and music by Dafydd Iwan.

Used with permission.

Words and translation by Dafydd Iwan, used with permission.

​

ONLY FOOLS ASK WHY SNOW IS WHITE

When the sun lies on the mountain, and the wind lies on the sea,

When the flowers are in the hedgerows, and the birds sing in the tree,

When the tears on the cheeks of a loved one sparkle like gossamer dew

That is when I know for sure that only this is true.

​

I know that this is freedom! I know that this is truth!

I know that to love a country and a people is my right!

So don't ask me your foolish questions,

Don't look at me in that strange way,

Only fools keep on asking why snow is always white.

​

When the words of my compatriots are sweet as the summer wine

And the old familiar sayings sound on their lips so fine,

When the strain of an ancient melody comes to comfort me,

I know then what belonging means, and I know what it is to be.

​

I know that this is freedom! I know that this is truth!

I know that to love a country and a people is my right!

So don't ask me your foolish questions,

Don't look at me in that strange way,

Only fools keep on asking why snow is always white.

​

When I look upon the miner's scar, and the blood where the quarryman lay,

When I see where the poor crofter raked his strands of hay,

When I see the block of oppression hung by a teacher's hand

I know that I must also for my brother make a stand.

​

I know that this is freedom! I know that this is truth!

I know that to love a country and a people is my right!

So don't ask me your foolish questions,

Don't look at me in that strange way,

Only fools keep on asking why snow is always white.

You can find the sheet music for this in 100 O Ganeuon Pop, available from local Welsh shops, www.ylolfa.com, www.cerddystwyth.co.uk and CD recordings from www.sainwales.com

SUO GAN

Huna blentyn ar fy mynwes

Clyd a chynnes ydyw hon.

Breichiau mam sy'n dynn amdanat

Cariad mam sy dan fy mron.

Ni chaiff dim amharu'th gyntun

Ni wna undyn a thi gam.

Huna'n dawel annwyl blentyn

Huna'n fwyn ar fron dy fam.

​

Huna'n dawel heno huna

Huna'n fwyn y tlws ei lun.

Pam yr wyt yn awr yn gwenu

Gwenu'n dirion yn dy hun?

Ai angylion fry sy'n gwenu

Arnat ti yn gwenu'n llon

Tithau'n gwenu'n ol dan huno

Huno'n dawel ar fy mron.

​

Paid ag ofni dim ond deilen

Gura gura ar y ddor.

Paid ag ofni ton fach unig

Sua sua ar lan y mor.

Huna blentyn nid oes yma

Ddim i roddi iti fraw

Gwena'n dawel ar fy mynwes

Ar yr engyl gwynion draw.

SOSBAN FACH

​

Mae bys Meri-Ann wedi brifo,

A Dafydd y gwas ddim yn iach.

Mae'r baban yn y crud yn crio,

A'r gath wedi sgrapo Joni bach.

​

Sosban fach yn berwi ar y tan,

Sosban fawr yn berwi ar y llawr,

A'r gath wedi sgrapo Joni bach.

​

Dai bach y sowldiwr,

Dai bach y sowldiwr,

Dai bach y sowldiwr,

A gwt ei grys e mas.

​

Mae bys Meri-Ann wedi gwella,

A dafydd y gwas yn ei fedd;

Mae'r baban yn y crud wedi tyfu,

A'r gath wedi huno mewn hedd.

​

Sosban fach yn berwi ar y tan

Sosban fawr yn berwi ar y llawr

A'r gath wedi huno mewn hedd.

This beautiful lullaby is about a mother rocking her child to sleep. The mother is letting the child know she is holding them tightly and they are safe in her arms. 

 

Click on the link below to hear Suo Gan sung by Upton Community Choir at the 2019 Llangollen Eisteddfod. This lovely 2-part arrangement is by Paul Ayres (www.paulayres.co.uk) and the cornet obbligato is played by Alice Newbould. 

​

https://drive.google.com/file/d/1QYSRCetQSboYpkcHtTYTNfWVNgp2Baik/view?usp=sharing

LITTLE SAUCEPAN

​

Mary-Ann has hurt her finger,​

and David the servant is not well.

The baby in the cradle is crying,

And the cat has scratched little Johnny.

​

A little saucepan is boiling on the fire,

A big saucepan is boiling on the floor,

And the cat has scratched little Johnny.

​

Little Dai the soldier,

Little Dai the soldier,

Little Dai the soldier,

And his shirt tail is hanging out.

​

Mary'Ann's finger has got better,

And David the servant is in his grave;

The baby in the cradle has grown up,

And the cat is 'asleep in peace'.

​

A little saucepan is boiling on the fire,

A big saucepan is boiling on the floor,

And the cat is 'asleep in peace'.

WRTH FYND EFO DEIO I DYWYN

Mi dderbyniais bwt o lythyr,

Ffa la la la la la la la la la la,

Oddi wrth Mistar Jones o'r Brithdir,

Ffa la la la la la la la la la la.

Ac yn hwnnw roedd yn gofyn,

Ffa la la la la la la la la,

Awn i efo Deio i Dywyn,

Ffa la la la la la la la la la la.

​

Fe gychwynnwyd ar nos Wener,

Ffa la la la la la la la la la,

Dod i Fawddwy erbyn swper,

Ffa la la la la la la la la la la.

Fe gaed yno uwd a menyn,

Ffa la la la la la la la la.

Wrth fynd efo Deio i Dywyn.

Ffa la la la la la la la la la la.

​

Dod ymlaen a heibio'r Dinas,

Ffa la la la la la la la la la la,

Bara a chaws a chwrw yng Ngwanas,

Ffa la la la la la la la la la la.

Drwy Dal-y-llyn yr aem yn llinyn,

Ffa la la la la la la la la.

Wrth fynd efo Deio i Dywyn.

Ffa la la la la la la la la la la.

​

Dod drwy Aber-y-gynolwyn,

Ffa la la la la la la la la la la,

Ac ymlaen dan Graig y Deryn,

Ffa la la la la la la la la la la.

Pan gyrhaeddom Ynys Maengwyn,

Ffa la la la la la la la la.

Gwaeddodd Deio, "Dacw Dywyn!".

Ffa la la la la la la la la la la.

​

The music for this song can be found in 100 O Ganeuon Gwerin.

YMA O HYD

Dwyt ti'm yn cofio Macsen,

Does neb yn ei nabod o,

Mae mil a chwe chant o flynyddoedd

Yn amser rhy hir i'r co';

Ond aeth Magnus Maximus o Gymru

Yn y flwyddyn tri chant wyth tri

A'n gadael yn genedl gyfan,

A heddiw - wele ni!

​

Ryn ni yma o hyd! Ryn ni yma o hyd!

Er gwaetha pawb a phopeth

Er gwaetha pawb a phopeth

Er gwaetha pawb a phopeth

Ryn ni yma o hyd!

​

Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,

Rhued y storm o'r môr,

Hollted y mellt yr wybren

A gwaedded y daran encôr;

Llifed dagrau'r gwangalon

A llyfed y taeog y llawr,

Er dued y fagddu o'n cympas

Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!

​

Ryn ni yma o hyd! Ryn ni yma o hyd!

Er gwaetha pawb a phopeth

Er gwaetha pawb a phopeth

Er gwaetha pawb a phopeth

Ryn ni yma o hyd!

​

Cofiwn i Facsen Wledig

Adael ein gwlad yn un darn,

A bloeddiwn gerbron y gwledydd:

'Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!'

Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd,

Er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw,

Byddwn yma hyd ddiwedd amser

A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!

​

Ryn ni yma o hyd! Ryn ni yma o hyd!

Er gwaetha pawb a phopeth

Er gwaetha pawb a phopeth

Er gwaetha pawb a phopeth

Ryn ni yma o hyd!

​

​

​

Words and translation by Dafydd Iwan, used with permission.

HERE STILL

You don't remember Macsen?

Who was he, you don't know?

One thousand and six hundred years

Is far, far too long ago.

When Maximus left our country,

Three eighty three was the year,

He left us as a complete nation

And today - we are still here.

​

We're still here today! We're still here today!

Despite everything and everyone,

Despite everything and everyone,

Despite everything and everyone

We're still here today!

​

Let the wind blow cold from Eastward,

Let the storm from the ocean roar,

Let the sky be split with lightning

Let thunderbolts shout their encore.

Let the faint-hearted keep on wailing

Let the serfs all grovel and fawn,

In spite of the darkness around us

We're ready to greet a new dawn.

​

Remember that old Prince Macsen

He left our country as one,

Let's shout out to all the nations

'We'll be here until Kingdom come!'

Despite all the furtive connivers,

Despite England's might, we're alive,

We'll be here for ever and ever,

The Welsh language will for ever survive!

Reaching No.1 in the UK charts in 2020, this stirring song sums up the passion the Welsh feel for their country and language.

​

Sheet music for this can be found in 'Hoff Ganeuon Dafydd Iwan', available from Cerdd Ystwyth Music and in '100 O Ganeuon Pop'.

©2025 All Rights Reserved/Northop Voices
bottom of page